Cymraeg

Ian Parri

 

Gwasanaethau Cyfieithu ac Ymgynghori

Translation and Consultation Services

Mae’r iaith Gymraeg yn perthyn i bawb ohonom yng Nghymru.

Mae’n cynnig ffordd unigryw a chost-effeithiol o osod nod arbennig ar eich cynnyrch a’ch gwasanaethau, er mwyn denu sylw’r bobol leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae’n ffordd effeithiol o leoleiddio eich brand heb y costau arferol.

Awgryma gwaith ymchwil a gyhoeddwyd yn 2005 bod 80% o’r sawl a holwyd yn gwerthfawrogi defnydd o’r Gymraeg gan y sector preifat, a bod 73% yn fwy tebygol o brynu nwyddau neu wasanaethau gan fusnes sy'n gwneud defnydd o’r iaith.

Bachwch ar y cyfle euraid hwn i gynyddu’ch siâr o’r farchnad, i hyrwyddo teyrngarwch eich cwsmeriaid, ac i roi nod arbennig i’ch gwasanaethau fydd yn rhoi’r fantais yn eich dwylo chi yn hytrach na’ch cystadleuwyr.

Cynigiaf wasanaeth cyfieithu cyflym a rhad Cymraeg-Saesneg-Cymraeg, gan ddefnyddio ffurfiau cyfoes a darllenadwy o’r ddwy iaith.

Dengys ystadegau o gyfrifiad 2011 bod 562,000 o bobol yng Nghymru yn medru’r Gymraeg, cynnydd o’r 508,000 ugain mlynedd yn gynharach, a chredir bod niferoedd sylweddol eraill â pheth ddealltwriaeth ohoni. Credir hefyd bod 133,000 o bobol yn Lloegr yn medru’r iaith, a 150,000 arall ledled y byd. Rhestrir hi ymysg y 7% uchaf o ieithoedd y byd o ran y nifer o siaradwyr. Y Gymraeg ydy'r drydedd iaith leiafrifol mwyaf ei defnydd ar Twitter.

Mae 23.3% o drigolion Cymru a anwyd yma yn siarad yr iaith, ac 8% o'r rhai a anwyd oddi allan i’r wlad.

Ym mis Ionawr 2009, yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru, roedd 99.8% o ddisgyblion ysgolion cynradd a 91.1% mewn ysgolion uwchradd yn dysgu Cymraeg fel iaith gyntaf neu ail iaith.

Beth bynnag bo’ch anghenion cyfieithu, cysylltwch heddiw am wybodaeth bellach.

 

Dwy iaith, dau gyfle

Pwy ydy Ian Parri?

Rwy'n aelod drwy arholiad o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, ond newyddiadura fu fy nghrefft wreiddiol, wedi ei hogi dros flynyddoedd o weithio mewn amrywiol gyfryngau.

Bûm yn ysgrifennu i'r Cymro, Yr Herald Cymraeg, a'r Daily Post, a bûm yn gweithio fel cynhyrchydd rhaglenni newyddion i BBC Radio Cymru.

Parhâf i wneud gwaith darlledu achlysurol, yn Gymraeg a Saesneg, ac yn 2008 cyhoeddwyd fy llyfr cyntaf, Favourite Watering Holes. Ym mis Mawrth 2013 cyhoeddwyd fy nheithlyfr ysgafn Nid yr A470 gan Wasg Gwynedd. Mae teithlyfr arall bellach ar y gweill, gyda'r nod o'i gyhoeddi yn 2015.

Rwyf hefyd, gyda'm gwraig Cath, yn rhedeg tafarn wledig a bwyty yn Eifionydd sydd wedi cipio nifer o wobrau busnes.

 

CYSYLLTU.........

 

Gallwch gysylltu â mi drwy ebost yn post@ianparri.net

 

neu ffoniwch fi'n uniongyrchol ar

07767 389447

 

(c) Ian Parri 2013

Wyddoch chi..?

 

Anfonwyd neges llafar o gyfarchiad Cymraeg ar y lloeren Americanaidd Voyager I pan lansiwyd hi ym 1977 ar daith i’r gofod pell

 

Y Gymraeg ydy’r unig iaith yn y Deyrnas Gyfunol i fod â statws gyfreithiol de jure

 

Rhaid i’r sawl sy’n ymgeisio am ddinasyddiaeth y Deyrnas Gyfunol ddangos eu bod yn hyfedr yn y Gymraeg, Gaeleg neu Saesneg

 

Y llyfr Cymraeg cyntaf oedd Yn y lhyvyr hwnn, cafodd ei argraffu ym 1546

 

Yr enghreifftiau cynharaf o lenyddiaeth Gymraeg oedd cerddi Taliesin ac Aneirin o’r 6ed ganrif

 

Cafodd dwy ffilm Gymraeg eu henwebu am wobr Oscar: Hedd Wyn a Solomon a Gaenor

 

Yn 2005 dynodwyd statws cyd-swyddogol i'r Gymraeg gan yr Undeb Ewropeaidd, ynghyd â Chatalaneg, Basgeg a Galiseg, gan olygu y gellir cyfathrebu gyda'r UE yn yr ieithoedd hynny

 

Yr hynaf o dri papur newydd Cymraeg caiff eu cyhoeddi ym Mhatagonia ydy Y Drafod, a sefydlwyd ym 1891. Y lleill ydy Clecs Camwy a Llais yr Andes

 

Anfonodd y gofotwr Dr Dafydd Rhys Williams gyfarchion yn Gymraeg oddi ar fwrdd y wennol ofod Columbia ym 1998